This website is best viewed with CSS and JavaScript enabled.

Easter message from Archbishop John Davies

Posted on: March 30, 2018 1:55 PM

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael yn Gymraeg
This article is also available in Welsh

An Easter message from the Primate of the Church in Wales, Archbishop John Davies.

I’m writing this on what might be described as a near-perfect spring day – a little cool, but sunny, and with the daffodils in the garden, recovering after two recent deluges of snow, bursting into bloom. Such days have the ability to make us feel better, more confident in the hope of sunny days ahead – to quote a hymn: “Bright skies will soon be o’er us, where the dark clouds have been.”

Of course, there’s absolutely nothing wrong with feeling better in ourselves and about ourselves. But in doing so, might we also start to feel stronger about our own abilities, to bring benefit to others through the contributions we make to our local communities and, perhaps, to needy people far beyond them?

Images of Easter which come into our minds may be images of events that were confusing and uncertain, but which unfolded in a garden and in circumstances very different from the bloody hysteria which characterised the events of Good Friday which unfolded in what the scriptures chillingly but evocatively call “the Place of the Skull.”

Despite the confusion and uncertainty of the first Easter, despite the sorrowful presence of the burial place of Jesus, we may yet have an image in our minds of a garden which is rather beautiful: fragrant, calm, sunny even. With the benefit of hindsight, the presence of the Risen Christ, as recounted in the Gospels, adds brighter light to this scene, even if, at the time, it was startling and frightening.

That presence, however, doesn’t convey the message that the story is ended, and the challenges overcome. It renews the story and refreshes the challenge to recognise that dark clouds will come again and are deeply and painfully present in many lives around the world now. It relates that the task for us all is to bring light to such times and to lives seemingly overwhelmed by darkness; to bring the gift of resurrection, the gift of life to lives that seem to be dying.

I hope that, whatever the weather, the light of the Easter event will make you feel positive about yourself and renew a vision of what you can do for others in need. The Risen Christ’s command is that we should go and do as he did, confident that love and light cannot be crushed by pain and darkness, and he calls us to be agents of the love and light for others. I wish you a Blessed, light-filled and hopeful Easter.

Archbishop John's Easter message

 

Posted by The Church in Wales on Wednesday, 28 March 2018

Neges Pasg gan yr Archesgob John Davies

This article is also available in English
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael yn Saesneg

Wales -Abp -John -Davies _460x 307

Neges Pasg gan yr Eglwys yng Nghymru cynradd, yr Archesgob John Davies.

Rwy’n ysgrifennu’r neges hon ar yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel diwrnod bron yn berffaith yn y gwanwyn – ychydig yn oer, ond heulog, a gyda’r cennin Pedr yn yr ardd yn blodeuo, ar ôl dod atynt eu hunain yn dilyn dau gyfnod diweddar o eira trwm. Mae dyddiau o'r fath yn gallu gwneud i ni deimlo’n well, yn fwy hyderus yn y gobaith o ddyddiau braf i ddod.

Wrth gwrs nid oes dim byd o gwbl o’i le gyda theimlo’n well ynom ein hunain ac amdanom ein hunain. Ond wrth wneud hynny, allem ni hefyd ddechrau teimlo'n gryfach am ein galluoedd ein hunain, i ddod â budd i eraill drwy’r cyfraniadau a wnawn i’n cymunedau lleol ac, efallai, i bobl anghenus ymhell y tu hwnt iddynt?

Gall delweddau o’r Pasg a ddaw i’n meddyliau fod yn ddelweddau o ddigwyddiadau oedd yn ddryslyd ac ansicr, ond a ddatblygodd mewn gardd ac mewn amgylchiadau gwahanol iawn i’r hysteria gwaedlyd oedd yn nodweddu digwyddiadau Dydd Gwener y Groglith, a ddatblygodd yn yr hyn a eilw’r ysgrythurau’n oeraidd ond yn atgofus fel “Lle Penglog”.

Er dryswch ac ansicrwydd y Pasg gyntaf, er gwaethaf presenoldeb trist man claddu Iesu, gallem ddal i fod â delwedd yn ein meddyliau o ardd eithaf hardd: peraroglus, tawel, hyd yn oed heulog. Gyda budd synnwyr trannoeth, mae presenoldeb y Crist Atgyfodedig, fel yr adroddir yn yr Efengylau, yn dod â golau disgleiriach i’r olygfa hon, hyd yn oed os ar y pryd yr oedd yn ysgytiol a brawychus.

Fodd bynnag, nid yw’r presenoldeb hwnnw yn cyfleu’r neges fod y stori ar ben, a bod yr heriau wedi’u goresgyn. Mae’n adnewyddu'r stori ac yn adfywio’r her i gydnabod y daw cymylau tywyll eto a’u bod yn bresennol yn ddwfn ac yn boenus mewn llawer o fywydau o amgylch y byd yn awr. Mae'n dweud mai’r dasg i bawb ohonom yw dod â goleuni i gyfnodau o’r fath ac i fywydau yr ymddengys eu bod yn cael eu llethu gan dywyllwch; i ddod â rhodd atgyfodiad, rhodd bywyd i fywydau yr ymddengys eu bod yn marw.

Gobeithiaf, beth bynnag y tywydd, y bydd goleuni digwyddiad y Pasg yn gwneud i chi deimlo’n gadarnhaol amdanoch eich hun ac adnewyddu gweledigaeth o’r hyn y gallwch ei wneud ar gyfer eraill mewn angen. Gorchymyn y Crist Atgyfodedig yw y dylem fynd a gwneud fel y gwnaeth ef, yn hyderus na all cariad a goleuni gael eu sathru gan boen a thywyllwch, ac mae’n galw arnom i fod yn asiantau cariad a goleuni i eraill. Dymunaf i chi Basg bendigedig, llawn golau a gobaith.