A Christmas Message from Archbishop John Davies of the Church in Wales.
This message is also available in Welsh
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn Gymraeg
Whether they are historical fact or simply carefully written stories – and I confess to preferring the second option – the biblical accounts of shepherds and kings being drawn to the baby Jesus have something important to say to our society in relation to our observance of the season of Christmas and our entry into New Year.
St Luke is the one whose version of the Gospel tells us the story of the shepherds. These were not influential or powerful individuals. Quite the opposite; stuck out, on a hillside, paid (but probably not very much) to look after someone else’s sheep. But it’s to these apparently unimportant people that the first messages about Jesus’s birth come. The meaning of this? Simply that Jesus has something important to say to the ordinary people like you and me.
Then we turn to Matthew’s version of the Gospel where we find the story about the Kings or, if you prefer, the Wise Men. Because of the expensive and symbolic gifts which we are told they brought, we are meant to understand that these are people of substance; influential and, maybe, even powerful. They come and present their gifts; but, before doing so, we are told that they “fell down and worshipped” Jesus. The meaning of this? Again, it’s simple. Jesus has something important to say to people of influence.
Whether it’s Luke’s shepherds or Matthew’s kings, these lovely stories contain messages of truth, namely that the teaching of Jesus of Nazareth, the man into whom the child of Bethlehem was to grow, is a pattern for ordinary people and a pattern for powerful people. Regardless of who we are, he has something to say about the way in which we live our lives and how we are called to show loving concern, not just for ourselves but for the millions of needy people, people at home and abroad, people in our own communities and the far-away communities of other nations in the world; people whose life-stories of need and despair daily appear in our news: among them are homeless people, refugees, victims of armed conflict and poverty, persecution and prejudice, depravation of food and opportunity – the list seems endless!
Love – real, blood-red love – is the most powerful weapon the world has, and Jesus shows how it should be used and must be used for the sake of the world he was born to renew.
His message for us is that we must try to live our lives demonstrating a genuine, welcoming and loving concern for those around us. His very clear message for those who have responsibility for leading and governing the world’s societies is that power is to be exercised within the framework of that concern as, even in our own society, divisions between the haves and the have-nots appear to grow ever wider, and as the voices suggesting that we should be concerned only for ourselves seem to get louder and louder.
I wish you the truth and blessing of Jesus for the Christmas Season, for the New Year and beyond.
The Archbishop of Wales, John Davies
Neges Nadolig gan yr Archesgob John Davies o’r Eglwys yng Nghymru.
This message is also available in English
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn Saesneg
P’un ai ydynt yn ffaith hanesyddol neu’n ddim ond straeon a ysgrifennwyd yn ofalus - ac rwy’n cyfaddef fod yn well gennyf yr ail opsiwn – mae gan yr adroddiadau Beiblaidd o fugeiliaid a brenhinoedd yn cael eu denu at y baban Iesu rywbeth pwysig i ddweud wrth ein cymdeithas am arwyddocad tymor y Nadolig a dechrau’r Flwyddyn Newydd.
Yn Efengyl Sant Luc y cawn stori'r bugeiliaid. Nid oedd y rhain yn unigolion dylanwadol na grymus. I’r gwrthwyneb yn wir: allan yna yn y bryniau, yn cael eu talu (ond nid rhyw lawer mae'n debyg) i ofalu am ddefaid rhywun arall. Ond i’r bobl ymddangosiadol ddibwys hyn y daw’r neges gyntaf am eni Iesu. Ystyr hyn? Yn syml, fod gan Iesu rywbeth pwysig i’w ddweud wrth y bobl gyffredin fel chi a fi. Yna trown at fersiwn Mathew o’r Efengyl lle cawn y stori am y brenhinoedd neu, os yw'n well gennych, y Doethion. Oherwydd yr anrhegion drud a symbolaidd a ddaethant, rydym i fod i ddeall fod y rhain yn bobl sylweddol; dylanwadol ac, efallai, hyd yn oed yn rymus. Deuant a chyflwyno eu hanrhegion; ond cyn gwneud hynny, dywedir wrthym iddynt “syrthio i lawr ac addoli” Iesu. Ystyr hyn? Eto, yn syml, mae gan Iesu rywbeth pwysig i’w ddweud wrth bobl o ddylanwad.
P’un ai’n fugeiliaid Luc neu frenhinoedd Matthew, mae’r straeon hyfryd hyn yn cynnwys negeseuon o wirionedd, sef fod dysgeidiaeth Iesu o Nasareth, y dyn y byddai’r plentyn o Fethlehem yn tyfu i fod, yn batrwm ar gyfer pobl gyffredin ac yn batrwm ar gyfer pobl rymus. Pwy bynnag ydym, mae ganddo rywbeth i’w ddweud am y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau a sut y gelwir arnom i ddangos consyrn cariadus, nid yn unig atom ein hunain ond at y miliynau o bobl anghenus, pobl adref a thramor, pobl yn ein cymunedau ein hunain a chymunedau pell i ffwrdd yng ngwledydd eraill y byd; pobl y mae eu straeon bywyd o angen ac anobaith yn ymddangos yn ein newyddion bob dydd: yn eu plith mae pobl ddigartref, ffoaduriaid, dioddefwyr rhyfeloedd a thlodi, erledigaeth a rhagfarn, newyn a diffyg cyfleoedd – mae’r rhestr yn ymddangos yn ddiddiwedd!
Cariad – cariad real, gwaetgoch – yw’r arf mwyaf grymus sydd gan y byd ac mae Iesu’n dangos sut y dylid ei ddefnyddio a rhaid ei ddefnyddio er lles y byd y cafodd ei eni i’w adnewyddu.
Ein neges i ni yw fod yn rhaid i ni geisio byw ein bywydau yn dangos consyrn diffuant, croesawus a chariadus at y rhai o’n hamgylch. Ei neges glir iawn i’r rhai sy’n gyfrifol am arwain a llywodraethu cymdeithasau’r byd yw y dylid gweithredu grym o fewn fframwaith y consyrn hwnnw gan yr ymddengys fod y rhaniadau rhwng y goludog a’r tlawd, hyd yn oed yn ein cymdeithas ein hun, yn cynyddu’n barhaus, ac wrth i’r lleisiau sy’n awgrymu mai dim ond at ein hunain y dylem fod â chonsyrn yn ymddangos yn fwy a mwy croch.
Dymunaf i chi’r gwir a bendith Iesu ar gyfer Tymor y Nadolig, ar gyfer y Flwyddyn Newydd a thu hwnt.
Archesgob Cymru, John Davies