Two women bishops from the United States will take part in a conference in Cardiff next month as legislation allowing women to be ordained as bishops in Wales comes into effect.
The Rt Revd Geralyn Wolf, former Bishop of Rhode Island, will be the keynote speaker at the Crossing The Threshold conference on September 4. She will also become the first women Anglican bishop to preside at Llandaff Cathedral when she takes part in the conference service. The Rt Revd Gayle Harris, the Suffragen Bishop of Massachusetts, will also attend.
The conference marks the opening of the rank of bishops to women following legislation passed by the Church in Wales which comes into effect on September 12 – exactly one year after the historic vote. The delay was built in to allow the Welsh bishops time to prepare a Code of Practice to accompany the new law.
In addition to the US bishops, speakers include other senior theologians, including Rev’d Dr Jenny Hurd, chair of the Wales’ Synod Methodist and Canon Joanna Penberthy.
Crossing The Threshold will be held at St Michael’s College, Cardiff. One of the organisers is the Revd Jan Gould, priest-in-charge of Glan Ely benefice in Cardiff. She says, “This conference is about how we ‘cross the threshold’ to a transformed leadership with the Church in Wales.
“Anglican women bishops in the USA have a huge amount to share and this is a unique opportunity to engage with their experience and to see together what that might mean for the future of the Church in Wales. People will have the chance to share their hopes, fears and expectations in small groups as the Church in Wales responds to this great change.”
The Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan, will also attend the conference. He says, “At this momentous time - when the Church in Wales is just weeks away from legislation coming into effect to allow women to be ordained as bishops – I am delighted to support this conference and to welcome in particular Bishop Geralyn Wolf to share her experience and ministry with us.”
Crossing The Threshold conference takes place at St Michael’s College, Cardiff, on September 4. The day will close with a service at Llandaff Cathedral at 7.45pm, at which Bishop Geralyn will preside and Canon Mary Stallard, chaplain of St Joseph's Anglican and Catholic School, will preach. All are welcome.
Welsh first for US bishop
Bishop Gayle Harris will become the first Anglican woman bishop to preside and preach at a Welsh cathedral when she visits St Asaph next month.
Bishop Gayle, who is Suffragen Bishop of Massachusetts, will lead a service at St Asaph Cathedral on her way to take part in the Crossing The Threshold conference in Cardiff.
The service will take place on August 31 at 11am and is open to all.
Bishop Gayle was invited to the Cathedral by the Bishop of St Asaph, Dr Gregory Cameron, who will also attend the conference in Cardiff.
He says, “Women bishops have been a reality in the Anglican Communion, if not in Wales, for some time now. It is good to be able to welcome Bishop Gayle into our midst to lead our worship in this time of transition.”
Croesi'r Trothwy - digwyddiad yn nodi cyfraith newydd Esgobion Benywaidd
Bydd dwy fenyw sy'n esgobion yn yr Unol Daleithiau yn cymryd rhan mewn cynhadledd yng Nghaerdydd fis nesaf wrth i ddeddfwriaeth sy'n caniatáu ordeinio menywod fel esgobion i Gymru ddod i rym.
Y Gwir Barchedig Geralyn Wolf, cyn Esgob Rhode Island, fydd y siaradwraig gyweirnod yng nghynhadledd Croesi'r Trothwy ar 4 Medi. Daw hefyd y fenyw gyntaf i fod yn esgob Anglicanaidd i lywyddu yng Nghadeirlan Llandaf pan fydd yn cymryd rhan yng ngwasanaeth y gynhadledd. Bydd y Gwir Barchedig Gayle Harris, Esgob Suffragen Massachusetts, hefyd yn bresennol.
Mae'r gynhadledd yn nodi agor rheng esgobion i fenywod yn dilyn deddfwriaeth a basiwyd gan yr Eglwys yng Nghymru a ddaw i rym ar 12 Medi - flwyddyn union ar ôl y bleidlais hanesyddol. Bwriad yr oedi oedd rhoi amser i esgobion Cymru baratoi Cod Ymarfer i gyd-fynd â'r gyfraith newydd.
Yn ogystal â'r esgobion o’r Unol Daleithiau, mae siaradwyr yn cynnwys diwinyddion amlwg arall, yn cynnwys y Parchedig Dr Jenny Hurd, cadeirydd Synod Fethodistaidd Cymru
Cynhelir Croesi'r Trothwy yng Ngholeg Mihangel Sant, Caerdydd. Un o'r trefnwyr yw'r Parch Jan Gould, offeiriad yng ngofal bywoliaeth Glan Elai yng Nghaerdydd. Dywedodd, "Mae'r gynhadledd yma ynglŷn â sut y byddwn yn 'croesi'r trothwy' i arweinyddiaeth wedi'i thrawsnewid gyda'r Eglwys yng Nghymru.
"Mae gan fenywod sy'n esgobion Anglicanaidd yn yr Unol Daleithiau lawer iawn i'w rannu ac mae hyn yn gyfle unigryw i gysylltu gyda'u profiad ac i weld gyda'n gilydd yr hyn y gallai ei olygu ar gyfer dyfodol yr Eglwys yng Nghymru. Bydd pobl yn cael cyfle i rannu eu gobeithion, ofnau a disgwyliadau mewn grwpiau bach wrth i'r Eglwys yng Nghymru ymateb i'r newid mawr yma."
Bydd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, hefyd yn bresennol yn y gynhadledd. Dywedodd, "Ar yr amser nodedig yma - pan fo'r Eglwys yng Nghymru o fewn wythnosau o ddeddfwriaeth yn dod i rym i alluogi ordeinio menywod fel esgobion - rwy'n hynod falch i gefnogi'r gynhadledd hon ac i groesawu yn neilltuol yr Esgob Geralyn Wolf i rannu ei phrofiad a'i hoffeiriadaeth gyda ni."
Cynhelir cynhadledd Croesi'r Trothwy yng Ngholeg Mihangel Sant, Caerdydd, ar 4 Medi. Daw'r diwrnod i ben gyda gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, lle bydd yr Esgob Geralyn yn llywyddu, am 7.45pm. Croeso i bawb.
Esgob o'r Unol Daleithiau y gyntaf yng Nghymru
Daw'r Esgob Gayle Harris y fenyw gyntaf i fod yn esgob Anglicanaidd i lywyddu a gweddïo mewn cadeirlan yng Nghymru pan fydd yn ymweld â Llanelwy fis nesaf.
Bydd yr Esgob Gayle, Esgob Suffragen Massachusetts, yn arwain gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf ar ei ffordd i gymryd rhan yng nghynhadledd Croesi'r Trothwy yng Nghaerdydd.
Cynhelir y gwasanaeth ar 31 Awst am 11am ac mae ar agor i bawb.
Gwahoddwyd yr Esgob Gayle i'r Gadeirlan gan Dr Gregory Cameron, Esgob Llanelwy, fydd hefyd yn mynychu'r gynhadledd yng Nghaerdydd.
Dywedodd, "Bu esgobion benywaidd yn realaeth yn y Cymundeb Anglicanaidd, os nid yng Nghymru, ers peth amser nawr. Mae'n dda gallu croesawu'r Esgob Gayle i'n plith i arwain ein haddoliad yn y cyfnod hwn o newid."